SpacerEnglish siteFfôn 01291 6635777 - Ffacs 01291 635780
Cymraeg

Croeso

Rydym yn cynnig cymuned ddiogel a hapus, lle gall myfyrwyr weithio'n galed a mwynhau dysgu. Mae ein dulliau addysgu yn ysgogi ac ymestyn myfyrwyr, i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Mae'r ysgol yn smart a chyflawn o ran cyfarpar, gyda chyfres o ystafelloedd ar gyfer pob pwnc, 9 labordy gwyddoniaeth sydd newydd eu hailwampio, 6 ystafell gyfrifiadurol rhwydweithiol, arbenigol, canolfan fusnes a 7 ystafell dechnoleg.

Mae'r safle'n hollol rwydweithiol, gyda dros 300 o weithfannau a chyfrifiaduron sy'n cael eu defnyddio'n helaeth ar draws y cwricwlwm gan fyfyrwyr o bob oedran.

Mae'r ysgol hefyd yn manteisio ar ddwy stiwdio ddrama, neuadd gelfyddydau a swît gerddoriaeth sy'n ymgorffori ystafelloedd ymarfer. Mae Cynyrchiadau a pherfformiadau yn ffynnu yma yng Nghas-gwent. Mae gennym gerddorfa fawr, côr, a grwpiau jazz, ymysg y grwpiau cerddorol eraill. Pob blwyddyn rydym yn cynnal o leiaf dau gyngerdd, cynhyrchiad llwyfan, a dau gyngerdd sylweddol ar gyfer elusennau; sydd o dan ofal y myfyrwyr.

Rydym hefyd yn medru cynnig hyfforddiant unigol ar gyfer ystod eang o offerynnau cerdd.

Mae gan yr ysgol enw da, dihafal, yn lleol yn ogystal â chenedlaethol am ein rhaglen chwaraeon sy'n cynnwys rygbi, pêl-droed, criced, pêl-rwyd, hoci, athletau, traws gwlad, pêl fasged, nofio, chwaraeon raced, hyfforddiant codi pwysau, hyfforddiant ffitrwydd a dawns. Mae ein cyfleusterau chwaraeon yn helaeth ac yn cynnwys neuadd chwaraeon, pwll nofio, maes 'astro-turf', ardaloedd ar gyfer gemau amryfal, stiwdio ddawns yn ogystal ag ystafell ffitrwydd cyflawn.

Mae'r ysgol yn gweithio'n agos gyda'n ysgolion cynradd partner er mwyn darparu cysondeb wrth ddysgu. Rydym yn cynnal diwrnodau TGCh, gweithdai drama a sioeau gwyddoniaeth teithiol. Mae unedau pontio cynlluniedig ar gyfer Saesneg a Mathemateg, sy'n cychwyn ym Mlwyddyn 6 ac yn gorffen ym Mlwyddyn 7, eisoes yn eu lle. Rydym hefyd yn cydweithio ar ddigwyddiadau chwaraeon, cyngherddau a chynyrchiadau.

Mae'n bleser hefyd gennym i weithio mewn partneriaeth gyda rhieni a chymuned Cas-gwent. Rydym yn arwain y canu wrth i'r goleuadau yng nghanol y dref gael eu goleuo adeg y Nadolig. Mae ein hysgol hefyd yn weithgar adeg 'Chepstow in Bloom'; estynnwn wahoddiad i bobl mewn oedran i ymuno â ni ar gyfer ein cynyrchiadau, mae cyn-filwyr lleol yr Ail Rhyfel Byd yn ymuno â ni adeg ein Gwasanaeth Dydd y Cofio, ac mae 'Churches Together', Cas-gwent yn cynnal cyfarfodydd wythnosol yn yr ysgol; arwain gwasanaethau ac yn mentora myfyrwyr. Mae ychydig o farddoniaeth ein myfyrwyr i'w weld wedi ei lingerfio ar balmentydd Canol y Dref, Cas-gwent.

Adobe PDF file icon  [458k] →




Page last updated: 24 November 2006